
Cyfarwyddwyr:
Maja Kotzmuth-Clarke BSc, B(Arch), RIBA
Siôn Williams BSc, B(Arch), RIBA
Creuwyd ein gwasanaeth cynllunio i weddu anghenion pob unigolyn yn berffaith. Y man cychwyn yw’r ymgynghoriad cyntaf i ganfod dyheuadau’r cleient.
Wrth gynllunio ymdrechwn i sicrhau fod y cwsmer yn rhan annatod o’r broses drwy drafodaethau ac ymgynghoriad cyson gyda’r brasluniau fel bod y cleient yn fodlon gyda’r cynllun terfynol.
Mae pryderon ynglŷn â’r amgylchedd a’r angen i arbed ynni a deunyddiau hefyd yn ffactorau pwysig yn ein athroniaeth, ynghŷd â sut i weithredu hyn yn ymarferol. Rydym yn ymwybodol iawn o faterion yn ymwneud â chynllunio cynaliadwy.
Sampl yw’r delweddau ar y chwith o rai o’n prosiectau diweddar; am fwy o enghreifftiau gweler y tab prosiectau ar ben y dudalen.

