llandafcourt1 llandafcourt2 llandafcourt3
Mae’r porthdy ym mynedfa Llys Llandaf yn dyddio n’ôl i’r 19fed ganrif ac wedi ei gofrestru gan gyngor tref Caerdydd fel adeilad o ddiddordeb lleol. Bellach yn dŷ preifat yn ei rinwedd ei hun, penderfynodd y perchennog ddodrefnu’r adeilad ymhellach a’i ymestyn i greu cegin ac ystafell wely ychwanegol.

 

Yn yr achos yma roedd y cleient eisoes wedi gwneud cais cynllunio ac fe’i wrthodwyd gan y cyngor. Gallwyd ymateb i’r rhesymau cyntaf dros wrthod y cais ac wrth drafod gyda’r adran gynllunio lluniwyd cynllun oedd yn dderbyniol i bawb.

 

Yr ydym o’r farn fod y newidiadau yn gwella ansawdd y tŷ heb dynnu sylw oddi wrth y porthdy gwreiddiol ; y syniad yw fod y rhan newydd yn wahanol i’r gwreiddiol (drwy ddefnyddio rendrad) ond sâf yn gyfforddus gyda’r porthdy Fictorianaidd.


Warning: require_once(/home/kwarchit/public_html/includes/domit/xml_domit_lite_include.php) [function.require-once]: failed to open stream: No such file or directory in /home/kwarchit/public_html/administrator/components/com_joomfish/classes/JoomfishManager.class.php on line 213

Fatal error: require_once() [function.require]: Failed opening required '/home/kwarchit/public_html/includes/domit/xml_domit_lite_include.php' (include_path='.:/usr/lib/php:/usr/local/lib/php') in /home/kwarchit/public_html/administrator/components/com_joomfish/classes/JoomfishManager.class.php on line 213