ffermycwrt 1 ffermycwrt 2 ffermycwrt 3

Fferm deuluol, 210 acer yw Fferm y Cwrt sy’n sefyll yng nghanol bryniau godidog Ceredigion yn Ne Orllewin Cymru. Mae’n safle hanesyddol gan y bu’r fferm unwaith yn Lys ac yn orffwysfan i fynaich ar eu taith i Abaty Ystrad Fflur.

 

Mae casgliad difyr o adeiladau yn iard y fferm; daeth y perchnogion atom gyda’r bwriad o addasu’r adeiladau hyn ar gyfer ymwelwyr. Mae’r cynllun yn cynnwys; newidiadau i’r stablau presennol i greu tri bwthyn (un wedi ei gynllunio’n arbennig i ddefnyddwyr cadair olwyn); newidiadau i’r sgubor i greu tri bwthyn arall a chanolfan gynadleddu; ailadeiladu ac ymestyn adeilad llai (Tŷ Oc) i greu tŷ bwyta/bar.

 

Roedd hi’n angenrheidiol tra’n cyflwyno rhannau newydd i sefydlu cydbwysedd rhwng yr angen am ddeunyddiau cyflenwol a dymuniad y cleient am ddeunyddiau nad oedd yn niweidiol i’r amgylchedd.


Warning: require_once(/home/kwarchit/public_html/includes/domit/xml_domit_lite_include.php) [function.require-once]: failed to open stream: No such file or directory in /home/kwarchit/public_html/administrator/components/com_joomfish/classes/JoomfishManager.class.php on line 213

Fatal error: require_once() [function.require]: Failed opening required '/home/kwarchit/public_html/includes/domit/xml_domit_lite_include.php' (include_path='.:/usr/lib/php:/usr/local/lib/php') in /home/kwarchit/public_html/administrator/components/com_joomfish/classes/JoomfishManager.class.php on line 213