derwent_web_1
derwent_web_2
derwent_web_3
derwent_web_1 derwent_web_2 derwent_web_3

Tŷ ar Ynys Derwent

Mae lleoliad y tŷ yma yn un arbennig iawn; ar ynys ‘Derwent Water’ yn ardal y llynnoedd  (Gogledd Lloegr). Mae’n dyddio o’r 18th ganrif  ac wedi ei gynllunio yn y steil Eidalaidd.

Yr ymddiriedolaeth genedlaethol yw perchnogion presennol y tŷ. Mae ein cleient wedi prydlesu’r tŷ ac am wneud newidiadau i weddu ei deulu heb gyfaddawdu cymeriad y tŷ. Roedd yn bwysig felly fod ein cynlluniau yn bodloni canllawiau llem yr ymddiriedolaeth ac hefyd yn addas i’r lleoliad o fewn y Parc Cenedlaethol.

Yn benodol, roedd angen ail drefnu’r stafelloedd o fewn y tŷ ac ychwanegu cyfleusterau newydd. Drwy gynllunio cywrain a hanesyddol gywir mae’r newidiadau yn gwella’r tŷ heb dynnu sylw. Mae ein cleient nawr yn gallu croesawu gwesteion ychwanegol a chynnal achlysuron cymdeithasol llawer mwy.