gradbar1 gradbar2 gradbar3

Mae’r prosiect hwn yn rhan o adeilad undeb myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd. Er mwyn ateb gofynion y cleient clustnodwyd 5 gwahanol ran, sef; man ymlacio; man gweithio/ cymdeithasu; man bwyta; man clyd a man digwyddiadau.

 

Gan ei bod yn debygol y bydd anghysondeb rhwng y gwahanol fannau gyda’r nos rhagnodwyd 2 fath o rannwr – cyrtens soled a lliain weiren tryloyw – yn enwedig i wahanu y man digwyddiadau o’r mannau cymdeithasol sy’n debygol o gael awyrgylch mwy swnllyd, tebyg i dafarn.

 

Drwy sicrhau defnyddiau, deunyddiau a goleuo priodol rydym wedi cynllunio awyrgylch modern, aml-bwrpas a chyfforddus i bobl ifanc – yn addas ar gyfer gweithio ac ymlacio – gydag awyrgylch anffurfiol, agored a chyfeillgar.