merthyr1 merthyr2 merthyr3

Mae swyddfa Drugaid ar lawr cyntaf Yr Hen Dy, Heol y Castell, Merthyr Tydfil; pwrpas y datblygiad newydd yw i greu adnodd i ddelio a ymholiadau a darparu triniaeth i bobl leol.

 

Swyddfa hollol agored oedd cyn yr ad-drefnu. Bellach mae'r adeilad yn cynnig awyrgylch gyfeillgar gyda derbynfa ac ardal aros newydd; swyddfa weinydda; ystafelloedd cynghori; ystafell driniaeth ac ardal lluniaeth. Yn ogystal,fe gynllunio ni'r dodrefn a goleuo.

 

Oherwydd fod gwaith drugaid o natur personol roedd yn bwysig fod y cynllun yn darparu annedd ddiogel a preifat. Roedd rhaid dilyn canllawiau pendant i sicrhau fod pobol oedd yn derbyn triniaeth yn cael goruchwyliaeth parhaol; fod yr ystafelloedd cynghorir yn hollol breifat a bod ardaloedd diogel i staff ag ymwelwyr.