heathpark 1 heathpark 2 heathpark 3

Enghraifft dda arall o dŷ pâr yng Nghaerdydd a sut y gellir ei altro i greu cartref modern ar gyfer y teulu.

 

Mae’r tŷ wedi ei addasu y tu mewn a’i ymestyn yn y cefn, y canlyniad yw tu mewn eang, golau ac agored sy’n cynnwys man coginio a bwyta sy’n agor allan ar yr ardd tu draw. Mae garej hefyd wedi ei gynnwys fel rhan o’r estyniad.

 

Yr oedd hi’n allweddol yn yr achos yma i adael mwy o olau dydd i’r adeilad. Cyflawnwyd hyn drwy gyfuno to aml ogwydd a ffenestri to, drysau sy'n llithro a ffenest do lusern i ganiatau golau’r haul dreiddio drwy’r cynllun cyfan.