CROESO
Sefydlwyd Penseiri Kotzmuth Williams yng Nghaerdydd yn 2003 er mwyn darparu gwasanaeth cynllunio unigol i bob cleient. Ein bwriad yw creu adeiladu modern a meddylgar sydd â pharch a chydymdeimlad i’w amgylchedd. Ymateb yw ein cynlluniau i amcanion ein cleient, lleoliad yr adeilad, y tirwedd, golygfeydd a chyfeiriad y safle. Mae nifer o’n prosiectau o fewn cyd-destun sensitif gan gynnwys adeiladu rhestredig ac ardaloedd cadwraeth.
Rydym yn cymryd parch yn ein gwaith cynllunio ac yn ein dealltwriaeth o adeiladu, defnyddiau a’r manylion sydd yn angenrheidiol i wasanaeth cyflawn. Mae Penseiri Kotzmuth Williams yn gwmni siartredig efo’r RSAW (Royal Society of Architects in Wales).
Fel rhan annatod o’r broses o ddatblygu eich prosiect, fyddwn yn rhoi pwyslais ar safon a gwydnwch y defnyddiau. Fe fydd rhestr gyflawn o fanylion y gwaith yn eich galluogi i ofyn am ddyfynbrisiau manwl er mwyn cyllidebu’n effeithiol ac osgoi aberthu ar y safon.
Yn ogystal â’r ochor gynllunio a’r dewis o ddefnyddiau, gallwn hefyd eich helpu drwy’r broses statudol sy’n elfen fawr o ddatblygu cartref. Er enghraifft, gallwn eich tywys drwy’r broses cais cynllunio a rheolau adeiladu (ar gyfer tai newydd neu estyniad ar dŷ presennol).