Estyniad & Adnewyddu


Llysfaen

Client
Preifat
Architects
KWA
Status
Gorffenedig
Program
Tai
Year
2021
Scale
470 m²
ORIEL

YR Hanes

Roedd y tŷ yma ar gyrion Gaerdydd yn wreiddiol yn ran o ddatblygiad o tri tŷ tebyg. Bob tŷ yn hir a chul i fedru ffitio tri cartref newydd o fewn cyfyngiadau’r safle. Fodd bynnag, yn y pen draw, dim ond dau dy a gafodd ei adeiladu ond cadwyd y ffurf hir a chul. O ganlyniad, cafodd y tŷ ei wasgu i un ochor o safle eithaf mawr gyda’r ardd gyfochrog yn un stribed hir. Yn fuan ar ôl prynu’r tŷ, daeth y perchnogion newydd atom i drafod ehangu ag adnewyddu’r adeilad. Roeddent hefyd yn gallu gweld fod potensial i datblygu gwell trefniant or safle.

Drwy weithio’n agos efo’r perchnogion, fe ddatblygodd syniad cychwynnol yn cynnwys dymchwel y garej gwreiddiol. Fyddai’r garej ychydig y tu ôl i flaen y tŷ ag i’r ochor. Fyddai’r safle newydd yma yn creu gwagle ar gyfer mynediad newydd a’r dreif byrrach yn helpu a gardd well i gefn y tŷ. Yn y bwlch rhwng a tŷ gwreiddiol ar estyniad, ffurfiwyd cyntedd dau lawr o uchder. Fynnu grisiau, mae pont yn cysylltu’r grisiau a’r stafell wely newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r gwydr yn y cyntedd yn wynebu’r gogledd ac yn edrych allan ar yr ardd. Oherwydd hyn, ni oedd angen louvres na gwydr arbennig i gysgodi o’r haul. Ar yr ochor arall (i’r de), mae drws y fynedfa’n cynnig cysgod gyda ychydig wydr i’r ochor ac uwchben er mwy cael golyga lawr y dreif o’r bont.

Yn ogystal ir gwaith ar yr estyniad, mae’r tŷ gwreiddiol hefyd wedi ei weddnewid. Rhan fawr or gwaith yma oedd insiwleiddio’r waliau allanol a’r gofod yn y to. Wrth ychwanegu gwres yn y llawr, roedd hefyd cyfle i insiwleiddio dan y llawr. O ran y dewis o ddefnyddiau, fe ail rendrwyd y prif dy (roedd y perchnogion newydd yn hapus i weld y cladin carreg yn mynd). Mae tu allan y garej mewn bric er mwyn tanlinellu’r gwahaniaeth a’r tŷ gwreiddiol ac arddangos defnydd sylfaenol yr adeilad. Uwchben y garej, lapiwyd yr ystafell wely mewn pren wedi arlosgi. Roedd y ddiffyg gwaith cynnal a chadw efo bric a’r pren llosg hefyd yn apelio i’r perchnogion. Blwch wedi ei insiwleiddio’n dda yw’r ystafell wely newydd. Mae’n ymestyn dros y garej oddi tano er mwyn pwysleisio’r newid mewn defnyddiau a’r siapiau gwahanol. Roedd yma hefyd gyfle i guddio stribed o olau o dan y bondo. Ymestynnwyd y bric a’r pren llosg i fewn i’r cyntedd er mwyn egluro a diffinio’r ddau siâp.

Ar gyfer y prosiect yma, roedd Kotzmuth Williams yn gyfrifol am wasanaeth gyflawn o ddatblygu syniadau cynnar drwy’r gwaith adeiladu hyd ar drosglwyddo’r adeilad yn ôl i’r perchnogion (gyda apwyntiad a chytundebau’r RIBA). Ar y cyfan, roedd yn broses ddidrafferth gyda cefnogaeth y  perchnogion a’r adran gynllunio. Fe fy heriau wrth adeiladu drwy gyfnodau clo Covid a’r perchnogion yn gweithio yn maes iechyd. Datblygwyd cynllun i wneud y gwaith adeiladu fesul cam er mwyn tarfu cyn lleied a phosib ar y perchnogion. Gyda ddyfalbarhad yr adeiladwyr ac amynedd y perchnogion, nid oedd y cyfnod anodd yma wedi tarfu’n sylweddol ar ddatblygiad yr adeilad. Cwblhawyd y gwaith yn fuan yn 2021. Ers hynny rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd a’r perchnogion i arolygu’r prosiect a’i gweld yn setlo yn eu cartref newydd.