Mae’r tŷ mawreddog hwn o’r oes Fictoraidd hwyr yn sefyll ar gornel amlwg. Yn wreiddiol, cartref teuluol oedd hwn â gerddi eang. Drso amser, chwanegwyd y terasau cyfagos wrth I’r ddinas dyfu.
Yn ystod yr ugeinfed ganrif, cafodd yr eiddo ei newid yn fflatiau ac yna dechreuodd ddirywio ac yn y pen draw esgeuluswyd yr adeilad. Erbyn i’n cleientiaid brynu’r safle, roedd y tŷ bron yn adfail ac yn gadael yr ardal lawr.
Ein cyfarwyddyd oedd i’w adfer i dŷ yn unigol unwaith eto. Gan gynnwys ailwampio cyflawn y tu mewn a’r tu allan gydag estyniad modern a thirlunio helaeth. Rhan o’r her oedd cynhesu a phweru’r cartref heb ddefnyddio tanwyddau ffosil. Mae cyfuniad o bwmpiau gwres, paneli solar, batris ac inswleiddio helaeth wedi cyflawni hyn.
Ers ei orffen yn gynnar yn 2025, rydym wedi cael ymatebion cadarnhaol iawn yn lleol gyda llawer yn dweud pa mor dda yw gweld y tŷ wedi’i adfer.